Mae Cor y Pentan yn gor cymunedol cymysg sy’n canu yn yr Wyddgrug ers dros chwarter canrif. Mae’r cor yn canu caneuon poblogaidd a gwerin Cymraeg. Mae’r criw hwyliog, dan arweiniad Sian Meirion, yn ymarfer pob nos Fercher yng Nghanolfan Daniel Owen o 7.30 tan 9 – croeso i bawb sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg ymuno efo ni.
