
Manylion
- Pryd: Dydd Gwener, 20 Hydref 20203 1:30-3:30yp
- Lle: Maes parcio y Colomendy Arms, Cadôl CH7 5LL (gyda chaniatad i barcio)
- Tocynnau: Am ddim. Gyda Walkabout Flintshire. Tro 3 milltir weddol hawdd, un camfa hawdd a gelltydd cymhedrol
Fel y mae’r map, dyddiedig 1880 uchod, yn awgrymu bod yr ardal hon yn llawn diddordeb i haneswyr lleol. Yn oes Fictoria, roedd llawer o fwyngloddiau a chwareli yn ffynnu yno ac wedi gwneud ers o leiaf ddechrau’r ddeunawfed ganrif. Byddai Daniel Owen wedi adnabod yr ardal yn dda ac yn ymwybodol o’r gweithgarwch diwydiannol gan y byddai’r peiriannau wedi’u cludo o orsaf reilffordd yr Wyddgrug gan fynd heibio ei siop yn y Stryd Newydd. Defnyddiodd ‘Pantybuarth’, enw fferm ac un o’r pyllau plwm fel lleoliad yn ei nofel olaf, ‘Gwen Tomos’.