Manylion

  • Pryd: Dydd Mawrth 24 Hydref 2023 am 2:00 yp
  • Lle: Cyfarfod yn y maes parcio ar y B5123 ger Ysgol Rhos Helyg, Helygain. CH7 6PJ
  • Tocynnau: Am ddim. Gyda Clwydian Ramblers
  • Dim camfeydd a llethrau cymedrol.

Mwynhewch y cefn gwlad bendigedig a golygfeydd pell o Berth ddu, Moel y crio a Moel y gaer, Helygain. Roedd teulu Daniel Owen yn byw ym Moel y Crio cyn symud i’r Wyddgrug i weithio yn y pyllau glo a’r felin gotwm a ganwyd ei frodyr a chwiorydd hynaf yno. Dysgwch am hanes y teulu, gwelwch olion hanes diwydiannol yr ardal o byllau plwm ac odynau calch, a mwynhewch yr awyr iach!

Dim camfeydd a llethrau cymedrol.