Tro o gwmpas hanes diwydiant Yr Wyddgrug

Manylion

  • Pryd: Dydd Llun 23 Hydref am 10:30yb
  • Lle: Maes Parcio, Tesco, Yr Wyddgrug
  • Tocynnau: digwyddiad am ddim gyda Walkabout Flintshire

Mewn cydweithrediad â Walkabout Flintshire, mae’r daith dywysedig boblogaidd hon ar dir gwastad yn galw heibio mannau cysylltiedig â theulu Daniel Owen – a’r rheswm am iddynt symud i’r dref. 

Cewch wybod mwy am hanes difyr gorffennol diwydiannol y dref: gan gynnwys melinau cotwm a tun gan ein tywysyddion gwybodus. Bydd y daith yn cymryd llwybr ar lan yr afon Alun ac oddi yno i safle’r hen felin gotwm ac yn ôl heibio i ardal Nant Du lle bu fyw un o arloeswyr coll y mudiad undebau llafur oes Victoria.

Digwyddiad am ddim yn Saesneg gan wirfoddolwyr hyfforddedig Walkabout Flintshire.