Rhaglen Gwyl 2022
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Digwyddiad | Tocynnau | Rhagor |
Dydd Sadwrn 15 Hydref 2022 | 9.30 – 11.30 y.b. | Neuadd y Seiri Rhyddion, Ffordd y Iarll, Yr Wyddgrug. CH7 1AX | Bore Coffi Cyfle am sgwrs ac i ddysgu am weithgareddau’r wythnos | £1 er budd Gwyl Daniel Owen. | |
Dydd Sadwrn 15 Hydref 2022 | 10:00 y.b. – 3:00 y.p. | Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug CH7 1AP | Afalau a Dawns gyda Tegeingl Tanglers Gwasgu a blasu afalau, dawnsio ac adloniant byw gyda Chôr y Pentan a Band Cambria | Croesewir rhoddion yn fawr Trefnir mewn partneriaeth â Tegeingl Tanglers a The Relish Club | Rhagor |
Dydd Llun 17 Hydref 2022 | 10.30 y.b. | Cyfarfod ym Maes Parcio Tesco, Yr Wyddgrug CH7 1UB 10.30 yb | Taith Gerdded tywysedig gyda Walkabout Flintshire i safle hen garchar Fictoraidd Sir y Fflint | Am ddim Trefnir ar y cyd gyda Walkabout Flintshire. Cynghorir archebu Ffurflen archebu yma | Rhagor |
Dydd Llun 17 Hydref 2022 | 7.30 y.h. | Ysgoldy Capel Bethesda, Stryd Newydd, Yr Wyddgrug. | Darlith Goffa Flynyddol Daniel Owen gan yr awdur Rebecca Roberts “True to Nature”, y defnydd o Saesneg mewn nofelau Cymraeg. Yn Gymraeg gyda chyfieithiad ar y pryd i’r Saesneg. Trawsysgrif o’r ddarlith ardderchog trwy’r ddolen yma | £5 Ffurflen bwcio Noddir gan Gymdeithas Wil Bryan. Ffurflen archebu yma | Rhagor |
Dydd Mawrth 18 Hydref 2022 | 2.00 y.p. | Cyfarfod ger Caffi Florence, Parc Gwledig, Loggerheads | Taith Gerdded o Loggerheads i ardal pyllau plwm Maeshafn sydd yn gefndir i nofel Enoc Huws gan Daniel Owen | Am ddim Trefnir ar y cyd gyda Cerddwyr Clwyd. Cynghorir archebu Ffurflen archebu yma. | Rhagor |
Dydd Mawrth 18 Hydref 2022 | 7:30 | I fyny’r grisiau yn Y Pentan, Stryd Newydd, Yr Wyddgrug CH7 1NY | Cerddi a Chwrw Digwyddiad meic agored gyda chwrw go iawn – mwynhau’r gair llafar | £3 Mewn partneriaeth gyda Pinboard Writers | Rhagor |
Dydd Mercher 19 Hydref 2022 | 7:30 y.h. | Teml y Seiri Rhyddion, Stryd yr Iarll, Yr Wyddgrug CH7 1AX | ‘From failed preacher to promising novelist’ darlith Saesneg gan Dr Robert Lomas am waith llenyddol llawn cyntaf Daniel Owen a chyfle i weld teml Seiri Rhyddion y dref. | Rhoddion a raffl er budd Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty’r Wyddgrug Ffurflen archebu yma | Rhagor |
Dydd Iau 20 Hydref 2022 | 7.30 y.h. | Clwb Rygbi Yr Wyddgrug, Ffordd Gaer, Yr Wyddgrug CH7 1UF | Noson Gymdeithasol Cwis a Chân Addas i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr canolradd + | £3 neu £2 i aelodau o SIARAD Trefnir ar y cyd gan Goleg Cambria, Menteriaith Fflint a Wrecsam a Canolfan Dysgu Cymraeg | Poster |
Dydd Gwener 21 Hydref 2022 | 10.30 y.b. | Cyfarfod ym Maes Parcio safle DEFRA, Rhydymwyn ger Yr Wyddgrug CH7 5HQ | Taith Gerdded o gwmpas safle DEFRA Dyffryn Rhydymwyn lleoliad llawn awyrgylch y cyn ffatri arfau cemegol sydd nawr yn lloches byd natur | Am ddim Nifer cyfyngedig a bwcio’n hanfodol Ffurflen archebu yma | Rhagor |
Dydd Sadwrn 22 Hydref 2022 | 2:00 y.p. | Ardal Perfformiad, Beili Mewnol, Bryn y Beili, Yr Wyddgrug CH7 1RA | ‘Rwan ac Erstalwm’ Pnawn o berfformiadau byr gan bobl ifanc, yn edrych ar orffennol a phresennol Bryn y Beili. Ysgrifennwyd gan grwp ysgrifennu Theatr Clwyd, Cwils | Tocynnau am ddim o Theatr Clwyd. Trefnir mewn partneriaeth gyda Theatr Clwyd a phrosiect Bryn y Beili. | Rhagor |
Dydd Llun 17 – Dydd Gwener 21 Hydref 2022 | Yn ystod yr wyl bydd plant o’r ysgolion cynradd lleol yn ymweld â Bryn y Beili i ddysgu am hanesion y safle a Daniel Owen drwy defnydd ffilm fer gan ‘Mewn Cymeriad’ sy wedi’i chomisiynu gan athrawon ymgynghorol Cyngor Sir Y Fflint. | Wedi’i drefnu gan Menter Iaith Fflint a Wrecsam |