Plac Glas i Daniel
Newyddion cyffrous – rydym wedi derbyn £519.75 oddi wrth Gist Gymunedol Sir y Fflint i helpu i ariannu plac glas ar Cae’r Ffynnon ar Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug. Mae angen codi’r 25% sy’n weddill sef £173.25 ac mae’r ras ymlaen er mwyn i ni fedru cyhoeddi’r ffaith ein bod ni wedi llwyddo yng Ngŵyl Daniel Owen o’r 20 i 27 Hydref.
Cae’r Ffynnon yw’r tŷ a adeiladodd Daniel Owen ar ôl llwyddiant ei nofel Rhys Lewis. Symudodd yma gyda’i chwaer yn 1889 o’i gartref yn Long Row, ar draws y ffordd. Pan fu farw flwyddyn yn ddiweddarach symudodd Daniel Owen yn nes at ei siop yn Y Stryd Newydd.
Lle teilwng ar gyfer plac glas!
