LLond trol o hwyl 2022
Llond trol o hwyl gydag afalau, canu, dawnsio a llawer mwy: Gŵyl Daniel Owen15 – 22 Hydref 202
Ar Ddydd Sadwrn cyntaf Gŵyl Daniel Owen eleni byddwn yn dathlu ‘Diwrnod Shwmae Sumae’, y 15fed o Hydref, gyda Bore Coffi yn Neuadd y Seiri Rhyddion, Yr Wyddgrug. Bydd yma gyfle i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sgwrsio dros baned a chael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau’r Ŵyl. O 11.00yb – 3.00yp bydd Sgwar Daniel Owen dan ei sang gydag arddangosiad o’r grefft o wasgu’r sudd allan o afalau perllannau Sir y Fflint a chyfle i flasu’r ddiod hyfryd gynhyrchir gan wahanol fathau o afalau. Cewch gyfle i wrando ar Parti’r Pentan yn canu’n fyw a mwynhau perfformiadau lliwgar ac afieithus Dawnswyr Tegeingl.
Ar y Nos Lun edrychwn ymlaen at sgwrs gan yr awdur lleol Rebecca Roberts am y defnydd o Saesneg mewn nofelau Cymraeg. Roedd Daniel Owen ei hun yn defnyddio’r dechneg hon yn effeithiol iawn ‘To be sure!’. Yn dilyn Beirniadaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Tregaron bydd digon i’w drafod. Mae Rebecca yn awdur nifer o nofelau sydd wedi eu lleoli yma yn y Gogledd Ddwyrain – ‘Mudferwi’ 2019 a’r dilyniant ‘Chwerwfelys’ 2021, ‘Defodau’ a ‘Curiad Gwag’ 2022. Gyda’i nofel gyntaf i bobl ifanc, ‘Helynt#’ 2020, sydd wedi ei lleoli yn Y Rhyl, enillodd y categori Plant a Phobl Ifanc yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn a Gwobr Tir na n-Og 2021.
Nos Fercher byddwn yn dychwelyd i Neuadd y Seiri Rhyddion ar gyfer cyflwyniad darluniadol y Dr Robert Lomas ‘From failed preacher to promising novelist’ sy’n seiliedig ar bum erthygl gan Daniel Owen ymddangosodd yn ‘Y Drysorfa’. Poblogrwydd y portreadau hyn arweinodd Daniel Owen i sgwennu ei nofel gyntaf ‘Y Dreflan’. Cynhelir y cyflwyniad yn Nheml y Seiri Rhyddion gafodd ei dodrefnu gan Sir Watcyn Wynn, un o Lywyddion Eisteddfod yr Wyddgrug 1873. Daniel Owen oedd ysgrifennydd Pwyllgor yr Eisteddfod honno. Derbynir rhoddion ar y noson tuag at Urdd Cyfeillion Ysbyty’r Wyddgrug.
Nos Iau trown i mewn i Glwb Rygbi’r Wyddgrug am noson gymdeithasol ar gyfer Dysgwyr Canolradd + a siaradwyr Cymraeg. Cynhelir cwis hwyliog a chawn ein diddanu gan Nic Blandford a’i grwp. Mae Nic yn gerddor, awdur a bardd lleol ac edrychwn ymlaen i glywed ei gerddoriaeth fwyaf diweddar.
Ar bnawn dydd Sadwrn yr 22ain o Hydref yn Ardal Perfformio y Beili Mewnol ym Mryn y Beili cyflwynir ‘Lleisiau Ifanc’ – perfformiadau byr o waith pobl ifanc lleol sy’n ffrwyth partneriaeth rhwng Theatr Clwyd a Phrosiect Bryn y Beili. Cyfle gwych i fwynhau perfformiadau awyr agored mewn lleoliad arbennig oedd yn gyfarwydd i Daniel Owen yn ei ddydd.
Yn arwain i fyny at yr Ŵyl bydd Theatr Clwyd yn trefnu perfformiadau o waith comiswn gan ysgrifennwyr newydd o bob oed mewn ysgolion lleol. Yn ystod yr Ŵyl bydd cyfle i rai o ddisgyblion ysgolion cynradd y dref ymweld â Bryn y Beili i wylio fideo newydd am Daniel Owen.
Byddwn yn cyhoeddi fwy o wybodaeth ar y wefan, a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fel pob blwyddyn rydym yn hynod ddiolchgar i’r noddwyr, partneriaid a gwirfoddolwyr sydd yn ein galluogi i gynnal yr Ŵyl yn flynyddol i ddathlu bywyd a gwaith Daniel Owen a threftadaeth gyfoethog ardal Yr Wyddgrug.