Gwyl ardderchog unwaith eto!

Mae trefnwyr gŵyl lenyddol a diwylliannol Yr Wyddgrug wedi dweud ei bod wedi bod yn “flwyddyn wych” wrth i’r digwyddiad ddod i ben ddydd Gwener.

Mae mwy na 1,000 o bobl wedi heidio i Ŵyl flynyddol Gŵyl Daniel Owen, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau rhwng yr 20fed a’r 27ain o Hydref.

Dywedodd Nia Wyn Jones o’r Ŵyl “Mae wedi bod yn flwyddyn wych arall gyda chymysgedd o sgyrsiau a darlithoedd darluniadol, arddangosfeydd, perfformiadau awyr agored a theithiau cerdded tywys hanesyddol”.

Ddydd Sadwrn cafodd siopwyr yn Sgwâr Daniel Owen eu diddanu gyda gwledd o gerddoriaeth a dawns yn ystod ‘Dawns, Cân a Straeon’. Roedd perfformiadau Côr y Pentan a’r Côr Roc yn boblogaidd iawn, gyda Band Cambria yn ymuno â nhw gyda’u halawon Cymreig cynhyrfus. Fe gafodd tîm Border Morris Yr Wyddgrug, Tegeingl Tanglers a’r tîm dawnsio gwerin traddodiadol Dawnswyr Delyn y gynulleidfa i fyny ar eu traed yn ymuno.

Cafwyd darlleniadau ysbrydoledig gan ymgeiswyr rhagorol y rhestr fer yng Nghystadleuaeth ysgrifenwyr Ifanc Gŵyl Daniel Owen o’u barddoniaeth a’u straeon byr ar y thema ‘Ffasiwn Gyflym’. Cyflwynwyd eu tlysau gan Ddirprwy Faer yr Wyddgrug, y Cynghorydd Sarah Taylor.

Roedd y canwr-gyfansoddwr Gareth Bonello (a welir uchod) wrth ei fodd yng Nghlwb Criced yr Wyddgrug gyda’i ganeuon, sy’n cael eu dylanwadu gan gerddoriaeth draddodiadol a llên gwerin Cymru.

Roedd neuadd Capel Bethesda yn orlawn nos Lun ar gyfer un o uchafbwyntiau’r Ŵyl pan roddodd yr awdur enwog Meinir Pierce Jones, y ddarlith goffa flynyddol yn y Gymraeg ar y thema ‘Merched Daniel Owen’.

Draw yn y Drovers Arms fe wnaeth y digwyddiad meic agored, ‘Barddoniaeth a Pheintiau’, weld beirdd o bob rhan o’r ardal yn dod i’r Wyddgrug i ddarllen eu gwaith pryfoclyd.

Ddydd Mawrth a dydd Mercher roedd arddangosfa boblogaidd Yr Wyddgrug Hanesyddol a sgyrsiau gan David Rowe, a drefnwyd gan Gyngor Tref yr Wyddgrug, yn taflu goleuni ar orffennol y Dref. Gwnaeth rheolau’r Llyfrgell yn y 1940au wneud i lyfrgellwyr presennol yr Wyddgrug chwerthin!

Roedd tair o’r teithiau tywys hanesyddol diddorol eleni mewn ardaloedd sy’n gysylltiedig â Daniel Owen sef i’r Hen Felin Gotwm (Synthite) gyda Walkabout Flintshire, Moel y Gaer gyda Clwydian Ramblers a Loggerheads gyda Kevin Matthias.

Roedd cwis Cymraeg gydag adloniant gan Gôr y Pentan nos Fercher hefyd wedi denu cynulleidfa fawr.

Ddydd Iau, daeth rôl Daniel Owen fel aelod o Fwrdd Lleol yr Wyddgrug, diwygiwr cymdeithasol, a chyfaill y bobl gyffredin yn fyw mewn cyflwyniad a gafodd dderbyniad da gan John Atkinson. Mae John i’w weld yma gyda Nia Wyn Jones a Kevin Matthias o’r Wyl. Esboniodd sut y bu i’r cyfnod Fictoraidd trawsnewidiol y bu Daniel Owen fyw drwyddo ddylanwadu ei nofelau, yn ogystal â’i weithredoedd fel gwleidydd lleol etholedig.

Mae’r Ŵyl wedi bod yn rhedeg yn Yr Wyddgrug ers 2010 ac mae’n un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau’r dref – gyda rhywbeth at ddant pawb.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan www.danielowenfestival.com neu Facebook neu dilynwch twitter @DanielOwen1836.