Enw lwyfan Gareth Bonello, cyfansoddwr ac offerynnydd o Gaerdydd yw The Gentle Good. Mae Gareth wedi ei ddylanwadu yn gryf gan gerddoriaeth a thraddodiadau werin Cymru yn ogystal â dylanwadau o bedwar ban byd ac yn adnabyddus am ei allu ar y gitâr acwstig a’i lais ganu tyner. Mae’r cyfan yn dod at ei gilydd i greu cerddoriaeth werin hudol i swyno’r gynulleidfa.

Bydd Gareth yn cael ei gefnogi ar y noson gan Gwilym Bowen Rhys, y canwr a chyfansoddwr sy’n dod â geiriau ac alawon hynafol Cymraeg yn fyw.

Manylion

  • Pryd: Dydd Sadwrn, 21 Hydref 2023 am 7:30 yh
  • Lle: Clwb Criced Yr Wyddgrug, Ffordd Gaer. CH7 1UF
  • Tocynnau: £10 ar gael trwy ticketsource yn unig