Darlith Flynyddol gan Parch Aled Lewis Evans “Gwerthfawrogiad o Ddylanwad Creadigol Daniel Owen”
“Fel un sy’n ysgrifennu fy hun am y Gogledd ddwyrain, yr ongl sydd gen i eleni wrth gofio am Ddaniel Owen yw son am rai o’r ffyrdd y mae o wedi bod yn ddylanwad (weithiau yn ddiarwybod) ar bawb sydd wedi ysgrifennu yn y Gymraeg ar ei ol. Byddaf yn dyfynnu o’i waith i brofi y pwyntiau a’r damcaniaethau rwy’n eu datblygu”.

Cyfle i ddarllen sgript y ddarlith
- Traddodwyd y ddarlith ar Ddydd Llun 19 Hydref 2020
- Trwy gyfrwng Zoom
- Diolch yn fawr i Gymdeithas Wil Bryan, Yr Wyddgrug am noddi’r ddarlith flynyddol
- Cewch ddarllen sgript y ddarlith flynddol yma
Yn awdur a bardd cynhyrchiol a derbyniodd wobr am gyfraniad oes i fyd cyhoeddi yng Nghymru ym Medwen Lyfrau 2019 gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru. Mae’n weinidog, darlledwr, cyn athro cynradd ac uwchradd a chyn diwtor Cymraeg i oedolion. Fe’i ganwyd ym Machynlleth ond gydag ardal Wrecsam y cysylltir ef ers blynyddoedd bellach. Aled yw gweinidog Capel y Groes Ebeneser yn Wrecsam a Chapel St John Street, Caer.
Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth gyda Barddas ym 1989 ac mae wedi ennill tair gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd.
Cyhoeddodd Harvest Tide yn 2019 – addasiad Saesneg o’i nofel ‘Rhwng Dau Lanw Medi’ gyhoeddwyd ym 1994 sy’n cyfeirio’n ôl at ei blentyndod yn Y Bermo ym 1968. Ei gyfrol ddiweddaraf yw ‘Tre Terfyn’ cyfrol o ryddiaeth creadigol sy’n adlewyrchu fel mae cymeriad ardaloedd Wrecsam a’r Rhos yn newid.
Mae Gŵyl Daniel Owen yn hynod o falch i groesawu’r Parch Aled Lewis Evans, sydd wedi bod yn gyfrannwr cyson i’r Ŵyl, i draddodi’r ddarlith flynyddol eleni ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i glywed yr hyn fydd ganddo i’w ddweud.
Diolch i Gymdeithas Wil Bryan am noddi’r ddarlith flynyddol.