Ymunwch â ni am ddiwrnod llond hwyl o ddawnsio canu a straeon

Manylion
- Pryd: Dydd Sadwrn, 21 Hydref 2023 10:30yb – 3:00 yp
- Lle: Safle Perfformiad Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug
- Tocynnau: Digwyddiad galw heibio am ddim
Dewch i weld partïon Morris o’r Ffîn, Tegeingl Tanglers a Dawnswyr Delyn yn dod â thraddodiadau lleol yn fyw gydag arddangosfa liwgar o ddawnsio ar safle perfformiad Sgwâr Daniel Owen.
Yn dilyn perfformiadau bendigedig eraill yn Yr Wyddgrug bydd Côr y Pentan a’r Rock Choir yn dod â’u lleisiau bythgofiadwy i’ch diddori yn ‘Dawns, Can a Straeon’. Mae yna fwy i’w darganfod am y corau trwy dilyn y dolenni uwchben
Bydd Band Cambria yno hefyd gyda’i drymio gwefreiddiol â’i berfformiadau o alawon traddodiadol Cymraeg. Byddant yn arwain Maer Yr Wyddgrug Teresa Carberry i osod torch o flodau wrth draed y cerflun yn Sgwâr Daniel Owen.
Gwrandewch ar ein hysgrifenwyr ifanc dawnus pan fydd ymgeiswyr ar restr fer Cystadleuaeth Awduron Ifanc yr Ŵyl yn darllen eu cyflwyniadau. Bydd yr enillydd a’r ail safle ym mhob un o’r ddau gategori oedran yn cael eu cyhoeddi a’u cyflwyno â thlws gwydr wedi’i ysgythru.