Cyflwyniad yn Saesneg gan Dr Robert Lomas gyda thaith dywys o amgylch Teml Seiri Rhyddion Yr Wyddgrug a ddodrefnwyd gan Syr Watkin Wynn a oedd un o Lywyddion Eisteddfod Yr Wyddgrug (1873) pan sefydlwyd mudiad y Seiri Rhyddion gyntaf yn Yr Wyddgrug. Daniel Owen oedd ysgrifennydd Pwyllgor yr Eisteddfod.
Yn ddiweddar mae Robert wedi gorffen cyfieithu pregethau Daniel Owen a’i ‘Cymeriadau Methodistaidd’ a bydd yn rhoi darlith gyda darluniau yn Nheml y Seiri Rhyddion fydd yn sôn sut y daeth Daniel i ddechrau ysgrifennu a chyhoeddi ei waith, a sut arweiniodd ei lwyddiant iddo ysgrifennu ei nofel gyntaf, Y Dreflan. Mae Robert wedi cyfieithu’r saith pregeth i’r Saesneg a gellir gwrando ar Robert yn darllen y cyntaf trwy ddefnyddio’r ddolen hon Cewch tanysgrifio i wrando ar y gweddill.
Mae Robert yn awdur llwyddiannus ym maesydd gwyddoniaeth a saeryddaieth ac yn Gymrawd Adran Reolaeth Prifysgol Bradford. Er nad yw Robert yn siarad Cymraeg, mae cysylltiadau cryf ei deulu â’r Wyddgrug wedi ei annog i ddod yn arbenigwr brwd ar hanes bywyd Daniel Owen ac yn gyfieithydd ei waith.
