Darlith Flynyddol Gwyl Daniel Owen ‘Merched Daniel Owen’ gan Meinir Pierce Jones

Manylion
- Pryd: Dydd Llun 23 Hydref 2023 am 7:30 yh
- Lle: Ysgoldy Capel Bethesda, Stryd Newydd, Yr Wyddgrug CH7 1 UL
- Tocynnau: £5
Y fam, y chwaer, y forwyn; cymdogion, cyfeillion a chariadon, chwaraeodd cymeriadau benywaidd rannau hollbwysig ym mywydau llenyddol a phersonol Daniel Owen. Bu’n byw yn nhŷ ei fam ac ar ôl iddi farw, gyda’i chwaer hyd nes iddo orfod mynd, deunaw mis cyn iddo farw, i letya gyda dynes garedig er mwyn iddi ofalu amdano.
Cawn glywed am ‘Ferched Daniel Owen’ yn narlith Flynyddol Gŵyl Daniel Owen eleni gan yr awdur, cyfieithydd, a golygydd Meinir Pierce Jones a enillodd, yn addas iawn, Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Capten yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022
Addysgwyd Meinir yn Ysgol Nefyn, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor. Ei swydd gyntaf oedd swyddog golygyddol gyda’r Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel golygydd creadigol gyda Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon. Yn y blynyddoedd rhwng hynny bu’n ennill ei bara menyn fel awdur a chyfieithydd a sgriptwraig yn bennaf. Ond bu tro ar fyd rhwng 2011 a 2019 pan fu’n gweithio fel rheolwr prosiect i ailagor a rhedeg yr Amgueddfa Forwrol Llŷn eithriadol yn Nefyn.