Cyflwyniad yn Saesneg gan John Atkinson

Disgrifir Daniel Owen yn aml fel tad y nofel Gymraeg y teimlir ei dylanwad mewn llenyddiaeth hyd heddiw dros gan mlynedd yn ddiweddarach. Yr hyn nad yw bob amser wedi cael y fath amlygrwydd yw ei gyfraniad i fywyd cymdeithasol a chyhoeddus ei dref enedigol. O siambr drafod yr ystafell waith teiliwr lle dysgodd ei grefft yn ddyn ifanc, i’w ethol yn gadeirydd cyntaf Cyngor Dosbarth Trefol yr Wyddgrug, bydd John Atkinson yn olrhain ei ymrwymiad i’w dref a’i gyd-drefwyr.

Manylion

  • Pryd: 7:30 yh
  • Lle: Capel Ebenezer Y Bedyddwyr, Ffordd Glanrafon, Yr Wyddgrug CH7 1PA
  • Tocynnau: £5

Daniel Owen ar y rhestr o gyn gadeiryddion y Cyngor Trefol yn Neuadd Y Dref, Yr Wyddgrug