Darlith Flynyddol 2020 gan Parch. Aled Lewis Evans

Rydym yn ddiolchgar iawn i Aled am ei ganiatad i gyhoeddi’r sgript isod a baratowyd ganddo ar gyfer ei ddarlith a draddodwyd ar 19eg Hydref 2020 trwy gyfrwng Zoom.

Cyflwyniad

Pan oeddwn i yn cael y fraint o astudio Cymraeg at lefel A yn Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam, ar wahân i nofelau a gawsom ar gyfer lefel O, Daniel Owen oedd y dewis ar gyfer lefel A Cymraeg. Y dewis i amryw yn gwylio dwi’n siŵr. Dyma ein cyfle am y tro cyntaf i astudio ffurf y nofel mewn manylder ac i fod yn llaw’r meistr arloesol ei hun. Dwi’n cofio mai “Rhys Lewis” oedd y dewis ar y pryd yn y saithdegau, ac mae’r nofel honno a’i waith arall maes o law wedi cael dylanwad mawr arna i.

Pan oeddwn i yn cael y fraint o astudio Cymraeg at lefel A yn Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam, ar wahân i nofelau a gawsom ar gyfer lefel O, Daniel Owen oedd y dewis ar gyfer lefel A Cymraeg. Y dewis i amryw yn gwylio dwi’n siŵr. Dyma ein cyfle am y tro cyntaf i astudio ffurf y nofel mewn manylder ac i fod yn llaw’r meistr arloesol ei hun. Dwi’n cofio mai “Rhys Lewis” oedd y dewis ar y pryd yn y saithdegau, ac mae’r nofel honno a’i waith arall maes o law wedi cael dylanwad mawr arna i.

Heddiw fe hoffwn i gynnig i’r teiliwr a’r nofelydd arloesol (o ddechreuadau anodd yn yr Wyddgrug) ysbrydoli yn ddiarwybod genedlaethau ohonom. Bu Daniel yn ysgrifennu nofelau (fel T Rowland Hughes ar ei ôl) ar adeg pan nad oedd yn dda ei iechyd. Dyna wych ei fod wedi medru canolbwyntio ar rywbeth mor greadigol, llawn afiaith, oedd at ei ddant. Bu’n byw rhwng 1836 ac 1895. Gadawodd i ni gorff o waith sy’n llwyr deilyngu ei alw yn “Dad y Nofel Gymraeg”. Thomas Parry soniodd yn gywir iawn amdano: “Saif fel mynydd mawr ar wastadedd eang” 

Tan i mi gael y gwahoddiad i ymchwilio ac i ddarlithio eleni, doeddwn i heb sylweddoli (yn ymwybodol felly) efo’r tair cyfrol o ryddiaith estynedig sydd gen i fy hun, gymaint yr oedd Daniel Owen wedi gadael ei ddylanwad a’i ôl arnaf. Ymhlith fy mhrofiadau cyntaf o ryddiaith Gymraeg oedd “Rhys Lewis”, a dwi’n cofio astudio Enoc Huws fel rhan o radd Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Heddiw yn syml iawn fe hoffwn i gyfeirio at rai o’r nodweddion hynny sy’n dangos dylanwad Daniel Owen arnom yn ddiarwybod fel llenorion, gyda dyfyniadau o’i waith. Mae’n siwr yn oes y ‘soundbite’ a’r ‘llên micro’ y bydd dylanwadau gwahanol heddiw ar ysgrifenwyr newydd y dyfodol. Ond roedd y ffaith fod nofelau Daniel Owen wedi eu hysgrifennu fesul pennod yn rhoi’r fframwaith hwnnw i ninnau. Hefyd yn gwneud ni’n ymwybodol o geisio cael rhyw fachyn oedd yn mynd i ddal ein diddordeb yn y bennod nesaf. 

Roedd Daniel Owen, a natur dameidiog yr ysgrifennu yn falch o roi cameos arbennig i ni megis Rhys yn cael ei guro gan Robin y Sowldiwr yr athro creulon. Doedd y plant ddim yn dysgu fawr ddim ganddo ac yn cael eu curo am y peth lleiaf. Mae Bob brawd mawr Rhys ar ei ffordd adre o’r pwll glo ac yn clywed beth sy’n digwydd. Mae’n achub ei frawd ac yn ymosod ar Robin y Sowldiwr, ac o’r herwydd yn cael ei dorri allan o’r Seiat. Loes fawr i’w fam Mari Lewis. Cameos fel hyn a osodwyd gan Daniel Owen yn y storiâu cyfres yn y wasg gyfnodol – ar ddechrau genre y nofel Gymraeg. Ond fe welwn mewn nofelau cyfoes rŵan, fod ‘na ddychwelyd at nifer o ddyfeisiau, bron yn ddiarwybod.

Efo Dickens yn Lloegr fe ysgogwyd tyrfaoedd i ddisgwyl am y bennod nesaf o hanes Little Nell ar y cei ym mhorthladd Efrog Newydd. Ond roedd Daniel Owen hefyd yn ymwybodol o’r bachyn diddorol ar ddiwedd pennod i ddenu darllenwyr “Y Drysorfa” ac yn ddiweddarach “Y Cymro” yn ôl wythnos nesaf. Dipyn bach fel operâu sebon niferus ein cyfnod ni. 

Dwi’n siwr bod min arbennig i ysgrifennu fel hyn gan Daniel Owen, a’r angen i ddal diddordeb a chael bachyn ar ddiwedd pennod i’ch swcro chi i ddarllen y nesaf. Mae ‘na apêl debyg o wythnos i wythnos yn narnau arbennig Manon Steffan Ros ar gyfer “Golwg”. Mae Manon yn adlewyrchu newyddion y dydd, ond dyna a wnaeth Daniel Owen fwyfwy ar ôl ei ysgrifau a’i storïau cynnar – sef adlewyrchu newidiadau ei gyfnod. Y gwastatau a’r ffurfioli ar Fethodistiaeth wrth i grefydd ddod i gystadleuaeth a gwrthdaro efo ideoleg iawnderau’r gweithwyr, a gwleidyddiaeth yn sgîl y Chwyldro Diwydiannol. Daeth yr holl gefndir hwn yn fyw i mi drachefn yn y ddrama Bromenâd diweddar gan Theatr Clwyd am Derfysg yr Wyddgrug. Dramateiddio agweddau o wrthdaro syniadol y fam a’r mab – Mari Lewis a boenai am enaid dyn, a Bob Lewis oedd nid yn unig am ofalu am enaid dyn ond ei les tra’r oedd yn y byd hefyd. Credir gan haneswyr fod adlewyrchiad Daniel Owen o hanes y cyfnod yn agos at ei le, bymtheg mlynedd ar ôl Terfysg yr Wyddgrug.

Diddorol iawn yw sylw Hafina Clwyd yn Y Western Mail yn 1995. “Mae’n rhyfedd fod Daniel Owen wrth gyhoeddi ei nofel gyntaf “Rhys Lewis” wedi gorfod cymryd arno mai hunangofiant ydoedd, gan fod ysgrifennu nofel yn bechadurus oherwydd nad oedd yn wir”.

Yn sicr mae Daniel Owen yn ŵr ifanc talentog tu hwnt – yn cofnodi pobl yn ei gymdeithas ei hun, ac yn marwnadu pobl yn ei gymdeithas hefyd.

Ym Mawrth 1860 mae ei fentor Angell Jones yn marw, a maes o law ymgorfforir nifer o nodweddion cymeriad Angell yn y portread o Abel Hughes yn “Rhys Lewis”. Wedi iddo orffen blynyddoedd fel prentis i Angell Jones rhwng y deunaw oed a’r wyth ar hugain oed, fe drodd Daniel ei olygon at y Weinidogaeth pan aeth i Athrofa neu Goleg y Bala. Ond mewn gwirionedd roedd y Daniel ifanc yng nghwmni Angell Jones, eisoes wedi bod yn y coleg mewn sawl ffordd a dychwelodd ar ôl dwy flynedd i deilwra. Ond roedd eisoes wedi dechrau ymddiddori ym myd ysgrifennu, a’i drwytho ym myd y capel a byd llywodraeth drefol, leol. 

Collodd Daniel ei dad a dau frawd trwy foddi pan lifodd dŵr i bwll glo Argoed ar y 12fed o Fai 1837. (Thomas yn marw yn un ar bymtheg, a Robert yn un ar ddeg)

Angell oedd y blaenor â’i dduwioldeb a’i gonsyrn Cristnogol yn ddiarhebol hefyd, ac mae Daniel yn cyfaddef i Angell ei dywys o gwmni amheus ar un adeg yn ei fywyd. Torrodd iechyd Daniel Owen yn ddeugain oed.

Mae Daniel yn cofnodi ei deulu hefyd yn ei waith.

 Roedd ganddo frawd arall deg mlynedd yn hŷn na Daniel, sef Dafydd. Bu yntau farw yn bum deg a thair oed yn y Leeswood Arms. Eto i gyd fe ymgorfforwyd hwyl ei frawd mawr yn y cymeriad poblogaidd Wil Bryan yn ôl y sôn, y cyfaill ffraeth a pharod ei dafod. Tystiodd Daniel Owen i dalent fawr ei frawd Dafydd fel saer maen ac adeiladydd, ond gresyn i bethau fynd ar gyfeiliorn yn ei fywyd.

Yr enghraifft amlycaf o ymgorffori nodweddion ei deulu i gymeriadau yw Mari Lewis, y fam o argyhoeddiadau Calfinaidd cryf iawn yn “Rhys Lewis”. Meddai Daniel: “Mam oedd hi, ond i mi drwsio tipyn arni hi.” Iaith y teiliwr ynte? Bu’n byw gyda’i fam weddw, Sara Edwards, gan i’w dad a dau frawd gael eu lladd ym Mhwll glo Argoed. Roedd Daniel yn fabi ar y pryd. Yr oedd gan Daniel hefyd ddwy chwaer Leah a Catherine, un yn ddibriod ac aeth y llall i Fanceinion. Ar wahân i gyfnod byr yng Ngholeg y Bala bu Daniel yn byw efo’i fam. 

Yr arysgrif ar fedd y teulu ym mynwent gyhoeddus Yr Wyddgrug

Mae’n anorfod fod Daniel wedi selio ambell gymeriad ar rywun o’i deulu. Mae’r mwyafrif ohonom sy’n ysgrifennu yn gwneud hynny ar dro. Ffaith ddiddorol iawn oedd cysylltiad teuluol rhwng mam Daniel â’r dychanwr Twm o’r Nant a’i anterliwtiau – efallai mai oddi yno y daeth y ddawn i ddychanu’r cymeriadau brith, rhai duwiol a rhai dichellgar.

*Cysylltiad daearyddol ac ymdeimlad o le – sy’n gwreiddio gwaith Daniel yn ei filltir sgwâr, ac yn Sir y Fflint.

Mae’n syndod er mai awdur o’r dref yw Daniel, mae yn ei waith hefyd ‘cameos’ bach o fywyd y wlad – disgrifiad o Ddyffryn Alun, neu sôn am naws sanctaidd mynwent eglwys. Mae lleoliadau iawn fel Plas Onn Nercwys yn ymddangos yn “Gwen Tomos” ac ar stad Plas Onn oedd y Wernddu. 

Straeon a lluniau o fywyd bob dydd a chymeriadau ei oes oedd ganddo yn “Straeon y Pentan”. Mae Bob Lewis yn cael ei garcharu ar gam yn dilyn digwyddiad ym mhwll glo Caeau Cochion, ond mae’r hanesyn hwn yn cyfateb yn agos iawn i ddigwyddiad tebyg i lowyr Coed Llai yn 1869. Digwyddiad a sbardunodd derfysgoedd yr Wyddgrug.

Pan dw i’n meddwl am ddisgrifiadau o dymhorau’r Bermo neu ardal Wrecsam mewn rhyddiaith gen i, mae disgrifiadau Daniel Owen i osod golygfa, yn amlwg wedi dylanwadu arna i. Fydda i yn hoff iawn o wneud yr un peth.

*Mae Daniel hefyd yn hoff o fonologau cymeriadau yn eu cynefin, neu ar achlysur arbennig.

Yr Wyddgrug tua 1860

Mae cymeriadau Daniel Owen yn ymgorffori Sir y Fflint. Mae gan Daniel Owen gydymdeimlad â hwy – condemnio’r gormes, y tlodi a’r amodau gwaith y mae o, yn fwy na’r cymeriadau eu hunain yn aml.  Mae mwyafrif fy nghymeriadau i yn fy rhyddiaith yn ymgorffori pobl y ffin, a Wrecsam. Yn y diweddaraf “Tre Terfyn” dw i wedi mentro i’r Rhos a Phonciau ac yn cofnodi’r dafodiaith unigryw. 

Mae byd y ffin yn cynnig ei hun i’r Monolog, ac fe wnes i hyn yn gynnar iawn yn fy ysgrifennu. Fedra i ddim peidio â meddwl fod monologau cymeriadau Daniel Owen fel Thomas Bartley wedi fy nylanwadu i fentro yn yr ysgrifennu cynnar hwnnw yn nyddiau coleg. Yn nes ymlaen y dois i ar draws dwyster crefftus a haenau seiat brofiad Alan Bennet yn Talking Heads er enghraifft. Ond mae arlliw o’r haenau yna gan Daniel Owen mewn cyfrwng a oedd yn gymharol newydd ar y pryd.

Yn reit aml yn ei nofelau mae Daniel Owen yn rhoi llwyfan i syniadaeth un cymeriad mewn pennod. Ac mae o’n feistr ar gadw’r digrif a’r dwys yn agos at ei gilydd. Wrth i gymeriad fagu poblogrwydd efo cynulleidfa’r dydd, dwi’n siwr bod cryn bwysau arno i ddod â rhai ohonynt yn ôl ac yn ôl drachefn yn ei waith.

Fe hoffwn i ddyfynnu cymeriad Thomas Bartley yn annerch gerbron yr Athro a Rhys Lewis a’i gyd-fyfyrwyr yng Ngholeg y Bala pan mae’n ymweld â Rhys yno. Dyma enghraifft o ddau fyd gwahanol yn dod at ei gilydd, rhywbeth mae Daniel Owen yn feistr ar ei wneud, mewn sgwrs ddwys ac mewn hiwmor. Roedd yr ymdriniaeth naturiol a dychanol, a hiwmor cymeriadau fel Tomos Bartley mor allweddol i lwyddiant ei nofelau

1- TOMOS BARTLEY  

“Welsoch chi rioed fy salach am ddeud rhwbeth, syr” ebe Thomas. “ Ond fyddai i byth yn leicio bod yn od ac yn anufudd.  Mi glywes lawer o sôn am y Bala, syr, a phan ddoth Rhys yma attoch chi – roedd ei fam o a finne yn ffrindie mawr – y hi ddaru nwyn i at grefydd, a doeddwn i yn gwybod dim nes iddi hi sponio i mi, a gwraig ryfeddol oedd hi, mi ddeudais wrthi llawer gwaith bydase hi yn hapno bod yn perthyn i’r Ranters y base hi yn gneyd champion o bregethwr (cheers) – Hoswch chi be oeddwn i yn mynd i ddeyd –  O ie ! pan ddoth Rhys attoch chi mi benderfynes y down i i weld y Bala rwdro, a heddiw bore, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i’r mochyn (cheers) be fi – heddyw am dani.

 O Gorwen i’r Bala mi ges ride hefo lot o bregethwrs (cheers) ifinc yma a mi ges fy synu yn fawr ynyn nhw syr. Roeddwn i wastad yn meddwl am y students mai rhw bethe a’u pene yn eu plu, oeddan nhw, wedi hanner dori ‘u clone, ac yn darnlwgu hunen.  Ond weles i fechgyn, cleniach yrioed – doeddan nhw ddim byd tebyg i brygethwrs achos roeddan nhw yn od o ddifyr. Wyddoch chi be, syr? Roedd Mr. Williams yma (gan roddi ei law ar ei ysgwydd) yn medrud actio chi i’r blewyn; bydaswn i yn cau fy llygid faswn i ddim yn gwbod nad y chi oedd o”.

Pan ddywedodd Thomas hyn, cafodd daranau o gymeradwyaeth gan yr holl fechgyn oddigerth Williams,yr hwn a wridodd at fôn ei wallt.

*Cymeriadau ar y cyrion – Nansi’r Nant.

Mae gan Daniel Owen lygad am gymeriadau ar y cyrion, a’u hiaith a’u buchedd liwgar yn aml. Rhywbeth dw i wedi ei efelychu yn arbennig mewn rhyddiaith. Fyswn i’n mynd mor bell â dweud mai am gymeriadau’r cyrion dwi’n ysgrifennu fwyaf. Pan fydda i yn cynrychioli’r cyrion yn fy ngwaith maen siwr mai rhai o gymeriadau Y Caffi neu Dre Terfyn y llyfr newydd sy’n dod i’r meddwl.

Yn fy oes i, mae ganddyn nhw enwau cyfoes fel Rum Lad, Linda Platimum Blonde, a Mariah Scary. Ond pa well enghraifft i ni gan Daniel na’r cyflwyniad awgrymog a chynnil hwn i ni o gymeriad Nansi’r Nant mewn sefyllfa fwy gwledig yn y nofel Gwen Tomos. Noda Gwyn Thomas: “ Y mae ynddi ymladd ceiliogod, ffureta a hela llwynogod , a’r wrach Nansi’r Nant, a fyddai’n cael ‘datguddiedigaethau gan ysbrydion, a chyfrinach gyda’r tylwyth teg.’ ” Mae yn y nofel amwysedd efo’r cymeriadau:

2- DISGRIFIAD O NANSI’R NANT

Heb fod ymhell o’r Wernddu, ar ymyl y ffordd yr oedd caban bychan o ddwy ystafell lle y trigai gwrergan ,o’r enw Nansi Rogers, neu fel yr adwaenid yn gyffredin “Nansi’r Nant”. Yr oedd geiriau a chynghorion hon yn meddu cryn ddylanwad ai weision a morwynion y ffermydd cylchynol am filltiroedd o gwmpas. Nid oedd ar lawer ohonynt lai na’i harswyd a’r peth olaf a wnaent oedd tynnu gwg yr hen Nansi. Fel gwraig i un o gipars y Plas Onn yr adnabuwyd Nansi gyntaf yn y gymdogaeth, a bu hi a’i gwr yn byw flynyddoedd ar ystad y Plas Onn mewn ty a elwid y Nant. Ystyrid Nansi yn gryn ddoctores, ac ymofynnid ei chyngor pan fyddai dyn neu anifail yn afiach. Tra bu hi yn byw yn y Nant, gwasanaethodd y gymdogaeth fel bydwraig fedrus. Ganwyd iddi amryw o blant, i gyd yn enethod, a buont oll farw cyn bod nemor o ddyddiau ar y ddaear. Pa fodd bynnag, bu ei phlentyn olaf, a ddigwyddodd fod yn fachgen, fyw, a ganwyd ef oddeutu wythnos cyn genedigaeth Gwen Tomos. 

Dywedid mai bywyd ofnadwy a gafodd y cipar gyda Nansi. Ar adeg pryd y tybid ei fod yn ei gyflawn iechyd bu farw y cipar, a lled awgrymid hyd y gymdogaeth fod a wnelai Nansi rywbeth a’i ymadawiad o’r byd hwn. Yr oedd Nansi yn wraig weddw ers rhai wythnosau cyn geni Twm ei mab. Bu Nansi yn byw am rai blynyddoedd yn y Nant ar ôl iddi fynd yn weddw, a chredid yn lled gyffredinol y buasai’r Yswain Griffth, o’r Plas Onn, yn gadael iddi ddiweddu ei hoes yno oni bai am ddrygioni ei mab Twm. Pan dyfodd y bachgen i dipyn o faint aeth yn bla ar y gymdogaeth, ac o’r braidd y gallodd Nansi gael caban i drigo ynddo pan drowyd hi allan o’r Nant. Am amser maith ni wyddai neb pa fodd yr oedd Nansi a’i mab yn cael tamaid, er fod pobl yn dyfalu. Credid fod ystad y Plas Onn, ac ystadiau eraill,_ yn gorfod talu teyrnged at eu cynhaliaeth. Hwyrach fod gwir yn hyn, fel y caf sôn eto.

Dafydd Jenkins soniodd yn “Gwŷr Llên y bedwaredd ganrif ar bymtheg”: 

“Am y darlun a dynnodd Daniel Owen o’i gymdeithas y byddwn yn cofio wrth feddwl am ei waith, a phan geisiwn wneud y darlun yn eglurach, byddwn yn gweld y naill ar ôl y llall o aelodau’r gymdeithas.”

*Yn sicr mae deialog yn bywiogi’r llyfrau â hiwmor.

Mi fydda i wrth fy modd efo pytiau o ddeialog. Mae clust Daniel Owen yn y llon a’r lleddf yn tiwnio i mewn i ddeialog ac i dafodiaith a gwahanol haenau iaith pobl ei gymdogaeth. Oes mae ‘na ddychwelyd cymeriadau poblogaidd yn ôl, tipyn o felodrama a sentimentaleiddiwch ar dro – ond un o brif gryfderau Daniel Owen ydy’r ddawn o fedru chwerthin arnon ni ein hunain. Wil Bryan â’i gynghorion i’w gyfaill Rhys. Mae Glenys Mair Roberts yn dweud fel hyn amdano:

“Mae Wil Bryan yn enwog am feirniadu ‘humbug’ ac am bwysleisio bod yn ‘true to nature’. Fel Bob Lewis , mae Wil hefyd yn ei ffordd ei hun, yn tanlinellu atgasedd Daniel Owen at ragrith.”

3- WIL BRYAN YN TRAFOD Y SEIAT. 

Nid oedd Beck fel Eglwyswr syniad clir iawn am yr hyn a elwir “seiat”hyd nes i Bryan roddi iddo yr eglurhad canlynol. Yr oedd gan Wil allu neulltuol i roddi darnodiad o rywbeth y tybiai efe ei fod yn ei ddeall, ac fel hyn y darnododd i Beck natur ac amcan seiat:-

“Wel i ti”, ebe fe “seiat ydi lot o bobl dda yn meddwl ‘u bod nhw yn ddrwg, ac yn cyfarfod ‘u gilydd bob nos Fawrth i feio ac i redeg ‘u hunain i lawr”.

“Dydw i  ddim yn dy ddallt ti“, ebe Beck.

“ Wel”, ebe Wil, “drycha arno fo fel hyn: Rwyt ti yn nabod yr hen Mrs Peters, ac yr wyt yn nabod mam Rhys yna – nid am fod Rhys yma yr ydw i’n deyd – ond y mae pawb yn gwybod ‘u bod nhw yn ddwy ddynes dda a duwiol. Wel, mae nhw’n mynd i’r seiat ac mae Abel Huws yn mynd atyn nhw ac yn gofyn be sy ar ‘u meddwl nhw. Mae nhwthe yn deyd fod nhw yn ddrwg iawn, ac yn euog am wn i ddim faint o bethe a mi fydd Mrs Peters yn amal yn deyd hyny tan grio. Ar ol hyny mi fydd Abel yn deyd nad ydyn nhw ddim mor ddrwg ac y mae nhw’n meddwl, ac yn rhoi cyngor iddyn nhw ac yn deyd lot o adnode, ac wedyn yn mynd at rwfyn arall, ac mi fydd hwnw yn deyd yr un peth; ac felly o hyd nes y bydd hi yn hanner awr wedi wyth, ac ono mi fyddwn yn mynd adre.”

Dywed y Parch John Owen yn 1899 yng Nghofiant Daniel Owen: “Nid oes amheuaeth na chafodd “Rhys Lewis” y derbyniad mwyaf awchus a chyffredinol o’r un llyfr Cymraeg ar ei ymddangosiad cyntaf. Daeth “Y Drysorfa” oedd yn gyfyngedig i aelwydydd Methodistaidd yn hysbys drwy yr holl wlad.”

Mae gan Daniel Owen hoffter o bethau cyfredol a ffasiynol y cyfnod. Er enghraifft agweddau’r cyfnod at y Gymraeg yn y Gogledd ddwyrain. Mae’r cyfan yn swnio yn gyfarwydd iawn i ni heddiw.

Yn 1885 mae Daniel Owen yn yr ysgrif yn lladd ar y gair “Bethma” yn lladd ar fratiaith wael ac agweddau negyddol at y Gymraeg. Dydy o ddim yn ymateb yn ffafriol i rai sy’n defnyddio amwysedd y term “Bethma” yn lle cael gair penodol. Be fuasai o’n ei ddweud am iaith Rum Lad yn fy Nhre Terfyn innau neu’r disgyblion ysgol sy’n mynd ‘Over the Llestri’ dw i ddim yn gwybod!! 

Capel Bethesda, Yr Wyddgrug

Yn sicr, mae tafodiaith ac iaith lafar gynhenid a chyfoethog Sir y Fflint yn amlwg iawn yng ngwaith Daniel Owen.

Fedrwch chi feddwl fod y defnydd naturiol a chelfydd ohoni wedi rhoi sêl bendith yn yr isymwybod i awduron wneud hynny hefyd wrth ysgrifennu yn yr ugeinfed a’r unfed ganrif ar hugain.

YN SICR HEFYD, MAE GAN DANIEL OWEN Y DDAWN I GRISIALU TENSIYNAU EI GYFNOD A GWRTHDARO SYNIADOL YR OES.

Fe welwn hyn wrth i  Mari a Bob Lewis gyfnewid barn a gwrthdaro. Safbwyntiau dwy genhedlaeth wahanol, ond hefyd dwy oes wahanol gyda dyfodiad a lledaeniad y Chwyldro Diwydiannol, ac ymgyrch hawliau’r gweithwyr. Mae’n gefnlen i waith Daniel Owen – gwrthryfel y gweithwyr a’u syniadaeth newydd yn ymdreiddio i’r tir, ac yn rhwym o wrthdaro â  hen werthoedd. Fe welwn hyn yng nghymeriad Bob Lewis.

ROEDD BOB YN GYMERIAD MOR BWYSIG yn “Rhys Lewis” ac yn amlwg roedd hefyd yn ennyn parch y darllenwyr. Cymeriad da oedd o yn y bôn, yn erbyn rhagrith rhai o’r Seiat a’r gymdeithas leol, lle nad oedd buchedd yn cyd-fynd â geiriau. 

Wrth ymchwilio dois o hyd i lyfr arbennig gan Hughes a’i Fab Gwrecsam yn 1904 “Bob Lewis a’i Gymeriad” gan y Parch Henry Evans. Swllt oedd y pris, ac yn sicr roedd yr awdur o blaid Bob Lewis yn y llyfr hwn o’r gyfres “Y Porth Prydferth” Mae ymdrin â chymeriad Bob yn codi sawl moeswers bwysig, a dwi’n siwr y byddai dewis cymeriad Bob yn flaengar yn y cyfnod diddorol hwnnw, ac yn apelio at drafodaethau’r to ifanc.

Mewn llenyddiaeth gyfoes heddiw dydy cymeriadau ddim yn dod o hyd i atebion gymaint. Yn aml fe’u gadewir yn eu sefyllfaoedd. Ond roedd Daniel Owen yn rhan o gonfensiwn, er iddo yntau weddnewid y confensiwn hwnnw i raddau helaeth. Mae pawb yn blentyn ei gyfnod.

Pan ddaw hanes y ddau frawd i’w benllanw, rhaid cofio fod Bob yn “Rhys Lewis”, yn sicrhau fod dadleuon cyfredol am faterion y dydd yn cael eu gwyntyllu. Ond mae o hefyd yn gymeriad sydd yn gorfod plesio darllenwyr y Drysorfa. Mae Gwyn Thomas yn gwneud y sylw: “Fe welir mai Bob ydi’r un sy’n sefyll dros gyfiawnder cymdeithasol, ac ar un olwg mae’n drueni fod Daniel Owen wedi cael gwared ohono trwy beri iddo gael ei losgi i farwolaeth mewn damwain yn y pwll glo.” Rhys Lewis sy’n adrodd y llinyn stori hwn yn afaelgar iawn i’w uchafbwynt. Mae min real iawn ar y dweud pan gofiwn am hanes teulu Daniel ei hun.

Poster cynhyrchiad Theatr Clwyd ar destun Terfysg Yr Wyddgrug

4 -MARWOLAETH BOB

Yr oeddwn, meddaf, yn dychwelyd o’r wlad yn llawn asbri a dedwyddwch, heb fawr feddwl fod dim anghysturus yn fy aros. Pan oeddwn yn nesau adref, gwelwn bobol yn rhedeg yn gyflym tua’r dref. Prysurais innau, ac yn fuan deuthum o hyd i hen löwr methiannus, ac yntau hefyd yn cyfeirio tua’r dref. Gofynnais iddo paham yr oedd y bobl yn rhedeg? Ei ateb oedd:

‘Y damp, ‘y machgen i, yn y Caeau Cochion.’ Yn fy meddwl ni chyffyrddai fy nhraed â’r ddaear, ond cludid fi megis gan gorwynt o ddychrynfeydd a oedd yn rhuthro drwy fy nghalon. Gadewais y ffordd fawr, a gwneuthum linell unionsyth tua chartref. Llamwn dros furiau, gwrychoedd, a llidiardau, ac fel y bum yn synnu lawer gwaith ar ôl hynny, ni theimlwm fod un rhwystr ar y ffordd. Ac mor hunanol oeddwn! Ni feddyliwn am neb ond am Bob! A oedd ef ymhlith y rhai a losgwyd? Yn ôl adeg ar y dydd dylasai fod gartref cyn hyn, oblegid yr oedd ei stem ef yn gorffen am saith o’r gloch. Ac eto nid oedd ond ychydig o funudau wedi saith ar y pryd! Os oedd ef wedi ei losgi i farwolaeth beth a wnawn? Os oedd y tân heb gyffwrdd ag ef mor llawen fyddwnl! Ond beth os oedd wedi llosgi ei wyneb – y fath resyn!  Tybed a oedd ef wedi colli un llygad – mor hyll fyddai! O! gymaint o feddyliau a oedd yn rhythro drwy fy nghalon tra bum yn difa’r pellter a oedd rhyngof a chael gwybod y cwbl. Yn bur fuan cyrhaeddais i olwg ein ty ni, a gwelwn fod Bob wedi dyfod adref. Ond pa fodd! Mewn trol a gwellt ynddi, a dau ddyn, un o boptu iddo, yn ei gynnal. Yr oeddwn yn ei ymyl mewn eiliad. Clywn ef yn griddfan wrth gael ei gario i’r lloft. Yr oedd fy mam cyn  wynned â’r galchchen, ond yn berffaith dawel; yr oedd Bob cyn ddued â’r glöyn, ac wedi ei losgi yn golsyn, ond yn hollol lonydd. Yr oedd ei lygaid disglair a deallgar wedi eu llosgi yn glir allan o’i ben – ac eto yr oedd yn fyw.  Ni buaswn yn ei adnabod o holl bobl y byd. Gwelwn fod Doctor Bennett, sef Doctor y gwaith, yn yr ystafell ond ysgydwai ei ben yn anobeithiol. Treiglai deigryn i lawr grudd y Doctor, a chenfigennwn wrtho, oblegid ni allwn i wylo. Mae’r brofedigaeth weithiau mor llem a miniog, fel y mae’r  arwyddion cyffredin sydd gennym i ddangos ein bod yn ei teimlo yn gwrthod ein gwasanaethau o wyleidddra. Felly y darfu iddynt ymddwyn tuag at fy mam a minnau y tro hwn. Ni fedrem wylo. Wedi i rywun, nid wyf yn cofio pwy, roddi llymaid o ddwfr iddo, ymddangosai fel yn bywhau ychydig, a dywedodd yn eglur – ‘Mam’. 

Nesaodd fy mam ato, ac ebe hi – 

‘Wyt ti’n gweld tipyn, fy machgen?’ (Nid oedd fy mam ar y pryd yn deall ei fod wedi colli ei ddau lygad.) 

‘Ydwyf, Mam,’ ebe fe, ‘mae’r goleuni o’r diwedd wedi dyfod.’ 

Ymhen ychydig eiliadau ychwanegodd yn Saesneg, 

‘Doctor, it is broad daylight!’ 

Y funud nesaf yr oedd Bob wedi gadael ar ei ôl yr holl ofnau a’r tywyllwch i mi ac eraill.

Beth bynnag ein barn am gyd-destun marwolaeth Bob, rydym oll wedi elwa o’r ffordd y gall Daniel Owen ennyn y fath gydymdeimlad ynom at ei gymeriadau.

Yr Wyddgrug ar droad yr 20fed ganrif

*Mewn ffordd ddigon tawel mae cysylltiad crefydd yn ymdreiddio drwy “Rhys Lewis”

Er mai darlun o Fethodistiaeth sy’n ffurfioli yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd ar un wedd, dydy Cysylltiad Crefydd byth yn bell. Mae’r Athro Gwyn Thomas yn dweud fel hyn: “Sut yr oedd modd mynd dan groen y crefyddolder oedd ar yr wyneb, ydi un o ddiddordebau pennaf Daniel Owen y nofelydd.” Mae o’n cael ei gymryd yn ganiataol bron. Efallai erbyn “Enoc Hughes” a “Gwen Tomos” fod ganddo fwy o hyder cyflwyno pobl fel ag yr oedden nhw hefyd. Wrth i’r hyder fagu ceir gwrthdaro rhwng cymeriadau mewn sefyllfaoedd go annisgwyl pan ddaw Nansi’r Nant i’r Cyfarfod Gweddi er enghraifft. Mae un beirniad wedi dweud: “Gogoniant  Daniel Owen yw’r ffaith iddo dderbyn cyfyngiadau ei gymdeithas Fethodistaidd er mwyn datgelu gwirionedd amdanynt – gweithio oddi mewn a wnaeth”Yn “Enoc Huws” mae Daniel Owen yn parhau efo’r thema o Ragrith, ac fe greodd gymeriad anhygoel yng Nghapten Trefor “un o ragrithwyr mwyaf ein llenyddiaeth” ym marn Gwyn Thomas. Yn sicr, ochr arall y geiniog i unrhyw gonfensiwn gawn ni yn y portread o Gapten Trefor. Ceir sylw unwaith eto at gynildeb a’r hyn sydd rhwng y llinellau fel petai. Rhagrith y cyfnod – ond hefyd rhagrith pob cyfnod

Mae’r portread cyntaf a gawn o GAPTEN TREFOR yn Enoc Huws yn oesol yn hynny o beth, ac yn cyfleu’r anesmwythyd o dan y ddelwedd – thema gyfoes iawn. Gwelwn ddawn Daniel Owen yn datgelu fesul tipyn dwyll perchennog Pwll ‘honedig’ Y Gwynt. Ond mae’r awgrymiadau yno o’r portread cyntaf:

5 – CAPTEN TREFOR 

Yr oedd Capten Richard Trefor wedi bod yn troi yn ein mysg ers amryw flynyddoedd, ond nid oedd ef, mwy nag Enoc Huws, yn frodor o’r dreflan. Pan ddaeth ef gyntaf atom, yr oedd ymron ar ei ben ei hun fel un ag oedd yn gadael i’w farf dyfu a heb eillio dim, nes i’r peth ddod yn ffasiynol, a greodd ragfarn gref yn ei erbyn ym mynwesau rhai pobl dda a duwiol. Edrychai hyd yn oed y gwr call hwnnw, Abel Huws, braidd yn gilwgus amo. Yr oedd yn eithaf amlwg, meddai’r rhai oedd yn cofio ei ddyfodiad cyntaf atom, nad oedd ganddo, y pryd hwnw,’fawr o ddim o’i gwmpas’, ac mai dyn ‘yn juglo bywoliaeth’ ydoedd. Trôi o gwmpas y gweithfeydd mwyn, ac yn fuan iawn, er na wyddai neb pa sut, yr oedd ganddo law ym y peth yma a llaw yr y peth arall. Credid yn gyffredinol mai dyn yn byw ar ei wits oedd Richard Trefor, ac yn sicr, nid oedd ef yn brin ohonynt. Meddai allu neiiltuol i introdiwsio ei hun i bawb, ac yn fuan iawn gwelid ef yn ymddiddan â phersonau nad oedd Ilawer o’r hen drigolion erioed wedi torri Cymraeg â hwynt. Siaradai Richard Trefor Gymraeg a Saesneg yn llyfn a llithrig, a chordeddai eiriau yn ddiddiwedd os byddai raid. Yr wyf yn cofio clywed Wil Bryan yn cymryd ei lw fod Richard Trefor, rywdro, wedi llyncu Johnson, Webster a Geiriadur Charles fel dyn yn llyncu tair pilsen’.  Gan nad beth am gywirdeb llw Wil gyda golwg ar Johnson a Webster, nid yw’n beth anhygoel i Trefor lyncu Geiriadur Charles yn ei grynswth oblegid yr oedd ef yn hynod gyfarwydd yn athriwiaethau crefydd, ac yr oedd yr Ysgrythurau ar bennau ei fysedd. Yn y dyddiau hynny yr oedd cryn ddadlau ar bynciau crefyddol – ‘Etholedigaeth’ a ‘pharhad mewn gras’ a’r cyffelyb ac ystyrid Richard Trefor yn un o’r rhai ‘trymaf’ mewn dadl, a medrus yn y gwaith o hollti blewyn’.  Nid oedd ef y pryd hwnnw yn aelod eglwysig nac ychwaith yn neilltuol o fanwl ynghylch ei fuchedd oblegid dywedid gan rai ei fod ef weithiau yn cynryd ‘dropyn gormod’. Nid rhyw uchel iawn y safai Richard Trefor ym meddwl mam Rhys Lewis canys y mae’n gofus gennyf ei chlywed yn dweud – 

‘Yr ydw i yn ei weld o yn debyg arw, wel di, i Ifans, y syfêr, mae hwnnw’n byticular iawn am gadw y ffordd fawr yn ei lle ac yn daclus ond anaml y bydd ei hun yn ei thrafeilio hi. Ac felly mae Trefor; mi ddyliet fod o’n ofalus iawn na fydd na charreg na phwll ar y ffordd i’r bywyd’ ond mae gen i ofn nad ydi o ‘i hun byth yn ei cherdded.  Mi chlywes Bob yma’n deud fod y Beibl ar ben ei fysedd o, ond mi fase’n well gen i glywed fod tipyn ohono yn ei galon o’. 

Ond deil y darluniau hefyd sy’n pontio’r ddau fyd hefyd – Nansi’r Nant efo Gwen Tomos er enghraifft, gan geisio rhoi’r argraff nad ydy’r bobl a labelir yn ‘ddrwg’ yn ddrwg i gyd. Mae hynny yn wers bwysig i unrhyw un sy’n ysgrifennu wrth gwrs – dydy cymeriad ddim yn argyhoeddi os ydynt yn dda, neu ddrwg i gyd. Ond rydym yn derbyn yr ymdriniaeth o bawb gan Daniel.

6 –  CYSYLLTIAD RHWNG NANSI’R NANT, A GWEN AC ELIN. 

Dywedais fod Nansi yn casau crefyddwyr; ond yr oedd ganddi ddwy eithriad, sef Gwen Tomos ac Elin Wynn, Pant-y-buarth. Siaradai Nansi yn barchus a chanmoliaethus am y ddwy ferch ieuanc, a’r rheswm am hynny oedd, y byddai’r ddwy yn lled garedig ati. Nid oedd Gwen ac Elin yn credu yn ei swyngyfaredd, a gwyddai Nansi hynny’n burion, ac ni byddai hi byth yn son  wrthynt am ei gallu i ragfynegi pethau, nac am ei medr i ddwyn lwc neu anlwc ar hwn ac arall. Ac nid oddi ar ei hofn y byddai’r ddwy yn dangos caredigrwydd ati. Yr oedd eu pleidgarwch tuag at yr hen Nansi yn codi oddi ar ddau beth – tosturient wrth ei chyflwr enbydus, a hefyd hoffent gael ymgom â hi, am y gwyddai Nansi hanes pawb yn y gymdogaeth, ac i’r rhai a fyddai gymwynasgar iddi, adroddai Nansi ei holl chwedleuon. Gan nad pa mor dda a rhinweddol a all merch ieuanc fod ni fedr byth ymddyrchafu i’r ystad honno o berffeithrwydd i fod yn ddifater am amgylchiadau ei chymdogion, nac yn clustfyddar i’r hyn a ddywedir am garwriaeth hwn a hwn neu y chwedl a daenir am hon a hon. Y rhai hyn oedd y rhesymau am fod Nansi yn cael caredigrwydd rhyw unwaith yr wythnos yn y Wernddu ac ym Mhant-y Buarth.

Yn olaf ac yn allweddol dwi’n credu bod bwriad Daniel Owen wrth ysgrifennu gwaith mae pobl yn ei ddeall ac yn medru uniaethu ag o wedi sicrhau bod apêl iddo YMHOB CYFNOD. Mae o yn oesol ac yn fytholwyrdd. Tybed ai dyma sy’n allweddol yn y ffaith fod ei waith wedi goroesi, a pharhau yn ddigon cyfredol i wneud y gyfres “Treflan” a oedd yn cynnwys elfennau o’i lyfrau i gyd yn gelfydd iawn ar S4C.

Egwyddor sylfaenol ei gerflun ydy “Nid i’r doeth a’r deallus yr ysgrifennais, ond i’r dyn cyffredin.” Ond fe ddywed ymhellach yn y dyfyniad llawn: “Os oes unrhyw rinwedd yn y llyfr, Cymreigrwydd ei gymeriadau yw hwnnw, a’r ffaith nad yw’n ddyledus am ei ddefnyddiau i estroniaid.”

Yn 2020 wrth geisio ysgrifennu fy hunan yn y Gogledd ddwyrain, gallaf uniaethu â’r dyhead hwn gan Daniel, sef i ysgrifennu rhywbeth y gall bobl uniaethu ag o – a’i fwynhau, ac sy’n ‘boblogaidd’ yn yr ystyr orau. Dydy hynny ddim yn golygu nad ydy rhywun yn ymdrin â themâu dyfnach – ond – dw innau yn coleddu’r un farn ag o wrth ysgrifennu. Hynny ydy- ceisio apelio at rychwant eang o ddarllenwyr, gan fod llenyddiaeth wedyn efo’r gallu i gyrraedd, a symud pawb, ar wahanol ac amrywiol lefelau.

Daniel Owen (1836-1895)

Diweddglo

Gobeithio fod y trafod a’r enghreifftiau heddiw wedi tystio i ddylanwad parhaol Daniel Owen arnom ni, a’r seiliau a osododd o fel Tad y Nofel Gymraeg sy’n parhau yn ysbrydoliaeth i ni heddiw. Y ffaith allweddol ydy fod pobl yn dal i ddarllen ei lyfrau o, ac i gael eu dylanwadu gan eu harddull a’u ffresni. 

Mae Daniel Owen yn ysgrifennu mewn arddull gartrefol a naturiol ond eto cyfoethog iawn ac rydym yn dotio at ddisgrifiadau lleol nodedig,  pobl arbennig, a hefyd digwyddiadau neilltuol ei gyfnod.

Yng Nghywydd Croeso John Lewis Jones i’r Brifwyl ym Mro Delyn 1991, roedd yn rhaid cyfeirio at Daniel Owen:

Yr hwn a deilwriodd Rhys

Yn ei oriel a erys.

Yno mae Gwen ac Enoc

Athro’r clas a thorrwr cloc,

Twm a Mari a Tomos

yn parhau rhwng cloriau clos.

Diolch yn fawr i chi gyd am wrando.