Mae’n ôl unwaith eto, y gystadleuaeth flynyddol boblogaidd sy’n dathlu holl dalentau creadigol ysgrifenwyr ac sy’n agored i bawb rhwng 11 a 25 oed.
Thema’r gystadleuaeth eleni yw “Ffasiwn Cyflym”, sydd wedi ei ysbrydoli gan y ffaith bod Daniel Owen yn deiliwr yn Yr Wyddgrug yn ystod oes Victoria yn ogystal ag awdur enwog.
Caiff ysgrifenwyr ifainc gyflwyno darn o farddoniaeth, stori fer neu ddrama yn y Gymraeg neu’r Saesneg i fyny at 1,000 o eiriau. Ceir rheolau’r gystadleuaeth yma
Mae yna ddau gategori 11 i 18 oed ac 19 i 25 oed. Caiff y ceisiadau gorau a’r ail yn y ddau gategori oedran eu gwobrwyo â thlws gwydr wedi ei hengrafu.
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgeision yw hanner nos Dydd Llun 2il Hydref a bydd y gwaith yn cael ei ddyfarnu gan banel o feirniaid. Cewch weld rheolau’r gystadleuaeth yma.
Bydd rhestr fer yn cael ei pharatoi a rhoir gwybod i’r ymgeiswyr erbyn 9 Hydref
Bydd pawb ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i ddarllen eu gwaith neu i’w cael i ddarllen yn ‘Stori, Dawns a Chan’ ar Sgwâr Daniel Owen ar Ddydd Sadwrn 21 Hydref.
Yn ystod y digwyddiad hwn yng Ngŵyl Daniel Owen, bydd yr enillwyr a’r ail yn y ddau gategori yn cael eu gwobrwyo gyda’r tlws gwydr arbennig.
