
Roedd Daniel Owen yn gyfarwydd iawn â’r hen Drover’s Arms gan ei fod ar draws y ffordd o’r lle y bu’n byw y rhan fwyaf o’i oes. Mae sôn y byddai’n anfon ar draws am jwg o gwrw doedd dim yn cael ei chymeradwyo gan nifer o gapelwyr y cyfnod. Mwynhewch noson o adloniant llafar yn yr un lleoliad heb unrhyw stigma cymdeithasol! Cyfraniadau gan y ‘Pinboard Writers’ lleol ac eraill yn y sesiwn meic agored hon. Dewch yn gynnar i’ch gwaith gael ei gynnwys yn y rhaglen. Croesewir cyfraniadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Manylion
- Pryd: 7:00 y.h. Dydd Llun 23 Hydref 2023
- Lle: Y Drovers Arms, Yr Wyddgrug CH7 1DP
- Tocynnau: Am ddim. Croesewir rhoddion. Trefnwyd ar y cyd gyda Pinboard Writers