Canlyniadau y Gystadleuaeth Ysgrifenwyr

Cafodd enillwyr y deuddegfed Cystadleuaeth i Ysgrifenwyr Ifanc, sy’n rhan o Ŵyl Daniel Owen, eu cyhoeddi ddydd Sadwrn 21 Hydref yn ystod ‘Dawns, Cân a Straeon’ yn Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug.

Yn agored i unrhyw un rhwng 11 a 25 oed, roedd thema ‘Ffasiwn Gyflym’ yn cyflwyno straeon byrion a barddoniaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ysbrydolwyd y thema gyfoes gan Daniel Owen a oedd yn deiliwr yn Yr Wyddgrug, yn ogystal â nofelydd Cymraeg blaenaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Denodd y gystadleuaeth geisiadau gan lenorion addawol ledled yr ardal, gydag Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug ac Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn yn Y Fflint yn gosod safon uchel iawn.

Gwahoddwyd pob un o’r pedwar ar ddeg a gyrhaeddodd y rhestr fer i ddarllen eu cyflwyniadau i gynulleidfa werthfawrogol yn ystod ‘Dawns, Cân a Straeon’.

Enillydd y categori Cymraeg oedd Elen Jones o’r Wyddgrug gyda’i cherdd arbennig ‘Ffasiwn Cyflym’. Disgrifiodd y beirniad, Dr Sara Louise Wheeler, y gerdd fel un “Gwych, a myfyrdod doeth gyda thro yn y gynffon”. Yr ail safle oedd Cerys Liversage o Fwcle gyda’i stori ‘ffeithiol greadigol’ fer ar Ffasiwn Cyflym. Mae’r enillydd a’r ail safle yn fyfyrwyr yn Ysgol Maes Garmon

Yr enillydd yn y categori Saesneg oedd stori ddifyr gan Oliver Harris o Dreffynnon. Dywedodd y beirniad, Peter Jones, “Mae’r gwaith yn dangos dychymyg a sgil ysgrifennu go iawn”. Yr ail safle oedd Sophie o Gaerwys, gyda neges gref am arbed adnoddau. Mae’r enillydd a’r ail  yn fyfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn.

Cyhoeddodd y Cyng Sarah Taylor, Dirprwy Faer yr Wyddgrug, a Gareth Williams, y rhai oedd ar y rhestr fer a chyflwynodd y tlysau i’r enillwyr. Dywedodd Sarah ei bod yn bleser ymwneud â phobl ifanc mor greadigol.

Ym mis Gorffennaf mynychodd rhai o fyfyrwyr Ysgol Maes Garmon ddosbarthiadau ysgrifennu creadigol a noddwyd gan Ŵyl Daniel Owen trwy wobr Sefydliad Cymunedol, Sir y Fflint a gwobr Cymorth Ariannol gan Gyngor Tref Yr Wyddgrug.

Mae Gŵyl Daniel Owen eleni yn cael ei chynnal rhwng 20 a 27 Hydref. Wythnos llawn llenyddiaeth, cerddoriaeth, y gair llafar, hanes lleol a pherfformiadau byw – rhywbeth i bawb ei fwynhau.