Beth yw Gŵyl Daniel Owen?
Y dathliad cyntaf o fywyd a gwaith yr awdur Daniel Owen oedd wythnos o weithgareddau a gynhaliwyd yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint rhwng 17 a 23 Hydref 2010, sef wythnos geni a marw Daniel Owen. Eleni mae’r Wyl yn cael ei ddal eto o Ddydd Sadwrn 15fed hyd Ddydd Gwener 21 ain Hydref. Bwriedir yr Ŵyl liwgar, ffraeth a bywiog i fod uchafbwynt dwyieithog yng nghalendr yr Wyddgrug.
Rhywbeth i blesio pawb!
Cynhaliwyd y gweithgareddau yn 2010 mewn mannau allweddol sy’n gysylltiedig â Daniel Owen, gan gynnwys lansio cyfieithiad i’r Saesneg o Enoc Huws yn nhafarn y Pentan, Gwobr Daniel Owen am ysgrifennu creadigol, digwyddiadau yn y capel, gweithgareddau’r grŵp awduron, rhaglen i ysgolion a thaith dywys Gŵyl Daniel Owen o amgylch y dref a drefnwyd gan Gymdeithas Ddinesig yr Wyddgrug a’r Cylch. Mae’r rhaglen wedi datbygu ers hynny i fod yn Wyl sydd â rhywbeth i blesio pawb!

Caneris, afalau a dawnsio
Yn y gorffennol mae’r bobl ifanc wedi mwynhau creu het Daniel Owen a’i ganeri, ar ôl clywed bod yr awdur yn hoff o’i cadw a’i bridio. Yn 2015 cawsant gyfle i greu darlun gydag artist Eleri Jones ac i arddangos eu gwaith y tu allan yn y Sgwar Daniel Owen newydd . Yn 2018 aed ati i greu lein dillad yn llawn siapiau yno – eu cerfluniau nhw eu hunain o dan gysgod cerflun Daniel Owen. Yn 2019 dychwelodd ‘afalau a dawns’ i’r Sgwâr ar ôl ymweliad llwyddiannus iawn yn 2017 .Roedd yno wasgu afalau i wneud sudd gan Glwb Relish Yr Wyddgrug yng nghwmni dawnsio a cherddoraieth gan bartïon dawnsio gwerin lleol ac eraill
Terfysg Yr Wyddgrug
Y llynedd roedd yr Wyl yn falch iawn am y cysylltiad gyda chynhyrchiad Theatr Clwyd oedd yn seiliedig ar y terfysg a gymerodd lle 150 o flynyddoedd ynghynt ac yn wir, roedd digwyddiadau y flwyddyn 1869 yn thema nifer o ddigwyddiadau. Mae’r ddarlith flynyddol yn sicr yn uchafbwynt na ddylid ei golli. Yn 2019 clywsom Bethan Marlow oedd wedi ysgrifennu’r ddrama gymunedol . Ei phwnc oedd ”Yr Wyddgrug Ddoe Yn Heddiw’. Fel arfer fe’i throddodwyd yn Gymraeg gyda chyfieithu i’r Saesneg ar y pryd.

Cerddoriaeth, sgyrsiau a theithiau cerdded
Ers y dechrau, un o nodau’r ŵyl yw lledaenu ymwybyddiaeth am weithiau Daniel Owen a bu darlithoedd am yr awdur a lansio cyfieithiadau o’i waith dros y blynyddoedd. Cafwyd teithiau tywys lleol a theithiau bws, nosweithiau o farddoniaeth, hiwmor a darlleniadau, a thrafodaethau. Bu Gig yr Ŵyl, diwrnodau o weithgarwch celf, hel straeon, a chyngherddau gyda’r nos. Yn 2019 rhoddwyd y cyngerdd gan y cyfansoddwr a’r perfformiwr amryddawn, Robat Arwyn.
Bwriedir yr Ŵyl liwgar, ffraeth a bywiog i fod yr uchafbwynt dwyieithog yng nghalendr yr Wyddgrug. Mae llawer o’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim er bod yna ffi resymol iawn am eraill
Dyna flas ar yr Ŵyl. Mae yna llawer fwy! Mae rhaglen 2022 yn cynnwys canu a dawnsio ar y Sgwâr eto.
Am Daniel Owen (20 Hydref 1836 – 22 Hydref 1895)
Tipyn o hanes
Ganwyd Daniel Owen, y nofelydd a ystyrir fel ‘Tad y Nofel Gymraeg’ yn Yr Wyddgrug ym 1836. Lladdwyd ei dad a dau o’i frodyr mewn damwain ym mhwll glo’r Argoed ac o ganlyniad magwyd Daniel, a’i frawd a’i chwiorydd mewn tlodi enbyd gan ei fam weddw..
Roedd ei fam yn benderfynol nad oedd i fod yn löwr ac felly pan oedd yn 12 oed fe’i prentisiwyd i deiliwr lleol, Angel Jones. Dywedir mai yno yn y siop deiliwr oedd lle y derbyniodd ei addysg. Aeth i Goleg Diwinyddol Y Bala yn 1865 ond ni chwblhaodd ei astudiaethau gan ddychwelyd i’r Wyddgrug gan ailgydio yn ei waith fel teiliwr. Bu’n dal i bregethu ar ddydd Sul.
Salwch
Datblygodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth yn ei ddauddegau cynnar; cyhoeddodd gasgliad o bregethau yn 1879. Roedd salwch yn golygu ei fod yn troi’n fwyfwy at ysgrifennu gan ddilyn at ei brif weithiau – yn aml wedi eu cyhoeddi fesul pennawd mewn cylchgronau enwadol– gan gynnwys Y Dreflan (1881), Rhys Lewis (1885), Enoc Huws (1891), Gwen Tomos (1894), a Straeon y Pentan (1895). Fe’i hystyrir yn aml fel tad y nofel Gymreig.
Darllenwch fwy am Daniel Owen yma