Gŵyl Daniel Owen
Wythnos o weithgareddau a digwyddiadau yn ymwneud â threftadaeth, llenyddiaeth a chelf yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint a’r cyffiniau. Fe’i cynhelir yn ddwyieithog i gofio am yr awdur Daniel Owen tua diwedd mis Hydref o gwmpas pen-blwydd ei eni a’i farwolaeth yn y dref. Eleni mae’n rhedeg o ddydd Sadwrn 17eg tan ddydd Gwener 23 Hydref.
I weld manylion am y gystadleuaeth gyffrous DANIEL OWEN A FI gweler ein blog
Ar ôl yr ŵyl
Diolch i bawb am wneud Gŵyl Daniel Owen eleni yn llwyddiant mewn amgylchiadau gwahanol iawn. Os ydych wedi mynychu un neu fwy o’r digwyddiadau rhithiol neu wedi dod am dro gyda’r cerddwyr rydych wedi cyfrannu at ffigyrau mynediad cystal ag arfer os nad gwell a gobeithio wedi cael ymuno â ni mewn eitemau difyr ac amrywiol. Os fethoch chi’r ddarlith flynyddol ardderchog gan Aled Lewis Evans fe gewch chi ei darllen hi yma. Mae darlith ddiddorol Dr Robert Lomas yn Saesneg yma fel recordiad sain hefyd trwy ddilyn y ddolen yma. Cofiwch hefyd fod Cwis Dwyieithog Daniel Owen ar gael ar Kahoot. Mae cyfarwyddiadau sut i’w chwarae yma. Mae manylion ein cysylltiadau ar gael ar waelod y dudalen ac os ydych eisiau cyfrannu mewn unrhyw ffordd at ddyfodol yr Ŵyl byddwn yn falch cael clywed oddi wrthych chi.