Daniel Owen (20 Hydref 1836 – 22 Hydref 1895)

Ganwyd Daniel Owen, y nofelydd a ystyrir fel ‘Tad y Nofel Gymraeg’ yn Yr Wyddgrug ym 1836. Lladdwyd ei dad a dau o’i frodyr mewn damwain ym mhwll glo’r Argoed ac o ganlyniad magwyd Daniel, a’i frawd a’i chwiorydd mewn tlodi enbyd gan ei fam weddw. Er hyn sefydlodd ei hun fel teiliwr, pregethwr Methodist a chynghorydd tref a daeth yn un o awduron pennaf Cymru. Yn ei swyddogaeth gyhoeddus dangosodd ofal tros aelodau llai ffodus y gymdeithas.

 

Ynglŷn â Gŵyl Daniel Owen:

 

Y dathliad cyntaf o fywyd a gwaith yr awdur Daniel Owen oedd wythnos o weithgareddau a gynhaliwyd yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint rhwng 17 a 23 Hydref 2010, sef wythnos geni a marw Daniel Owen. Eleni mae’r Wyl yn cael ei ddal eto o Ddydd Sadwrn 14eg hyd 20 fed Hydref.

Bwriedir  yr Ŵyl liwgar, ffraeth a bywiog i fod uchafbwynt dwyieithog yng nghalendr yr Wyddgrug.

Cynhaliwyd y gweithgareddau yn 2010 mewn mannau allweddol sy’n gysylltiedig â Daniel Owen, gan gynnwys lansio cyfieithiad i’r Saesneg o Enoc Huws yn nhafarn y Pentan, Gwobr Daniel Owen am ysgrifennu creadigol, digwyddiadau yn y capel, gweithgareddau’r grŵp awduron, rhaglen i ysgolion a thaith dywys Gŵyl Daniel Owen o amgylch y dref a drefnwyd gan Gymdeithas Ddinesig yr Wyddgrug a’r Cylch.

Yn ail flwyddyn yr Ŵyl, ehangwyd cylch yr ŵyl i gynnwys pynciau llenyddol a chelfyddydol ehangach. Mae’r rhaglen estynedig hon yn rhan o’r weledigaeth hirdymor i sefydlu gŵyl gelfyddydol a llenyddol yn seiliedig ar Daniel Owen a’i waith – gan adlewyrchu diddordeb brwd yr awdur ym mhob agwedd ar lenyddiaeth a chelfyddydau Cymru.

Ers hynny, yn ychwanegol at lansio llyfr (Fireside Tales cyfieithiad o Straeon y Pentan gan Daniel Owen), teithiau tywys lleol a theithiau bws, nosweithiau o farddoniaeth, hiwmor a darlleniadau, darlithoedd a thrafodaethau, bu  Gig yr Ŵyl, diwrnod o weithgarwch celf (Mochyn Daniel Owen), hel straeon, a chyngerdd gyda’r nos gan Ensemble Cymru.

Yn y gorffennol mae’r bobl ifanc wedi mwynhau creu het Daniel Owen a’i ganeri, ar ôl clywed bod yr awdur yn hoff o’i cadw a’i bridio. Yn 2015 cawsant  gyfle i greu darlun gydag artist Eleri Jones ac i arddangos eu gwaith y tu allan yn y Sgwar Daniel Owen newydd . Yn 2018 aed ati i greu lein dillad yn llawn siapiau yno – eu cerfluniau nhw eu hunain o dan gysgod cerflun Daniel Owen.

Mae’r ddarlith flynyddol yn sicr yn uchafbwynt na ddylid ei golli. Eleni cawn siawns i glywed Bethan Marlow sydd wedi ysgrifennu’r ddrama gymunedol sy’n seiliedig ar Derfysg Yr Wyddgrug 1869. Ei phwnc yw’r testun ‘Yr Wyddgrug Ddoe Yn Heddiw’ fydd yn gwrthgyferbynnu elfennau mewn cymdeithas oes Daniel Owen gyda’r sefyllfa heddiw. Mae drama Bethan yn ganolbwynt i’r Ŵyl eleni gan ei bod hi’n 150 mlynedd ers y terfysg lle gollodd pedwar o bobl ei bywydau ac mae nifer o weithgareddau eraill yn nodi’r achlysur hefyd.

Mae dathlu ‘afalau a dawns’ yn dychwelyd i’r Sgwâr eto eleni ar ôl ymweliad llwyddiannus iawn yn 2017 .Bydd yno wasgu afalau i wneud sudd gan Glwb Relish Yr Wyddgrug yng nghwmni dawnsio a cherddoraieth gan bartïon dawnsio gwerin lleol ac eraill   

Bydd llawer o’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim, ond bydd pris i rai ohonynt.
Mae rhaglen 2018 wedi ei chyhoeddi ac mae’r holl fanylion ar y safle i bawb ei weld!

nol i’r brig