Dydd Mawrth 22ain Hydref 2019, 7:30yh

Y Ddarlith Flynydol: Bethan Marlow

Location: Capel Bethesda, Y Stryd Newydd, Yr Wyddgrug

Traddodir Darlith Flynydol Gwyl Daniel Owen eleni gan Bethan Marlow sydd wedi ysgrifennu cynhyrchiad Theatr Clwyd o “Terfysg Yr Wyddgrug”

Dramodydd Gymreig yw Bethan Marlow. Mae’n fwyaf adnabyddus mae’n debyg am Sgint a berfformwyd gan Sherman Cymru yn 2012

Mae’n enedigol o Fethel, Ogledd Cymru ond yn byw bellach yng Nghaerdydd gyda’i gwraig a dau o blant.

Ymhlith ei chomisiynau y mae Afiach- Nyrsus, drama ferbatim i Theatr Genedlaethol Cymru. Mae Bethan hefyd wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol i archwilio’r potensial i “gynulleidfa yn cyd-greu theatr”.

Dywedodd Cris Dafis amdani: “…yn rhoi llais i bobol â phrofiadau nad ydyn ni’n aml yn eu gweld ar lwyfannau Cymru.”.(Golwg)

Hyfforddwyd Bethan yn actores yn Academi Webber Douglas cyn iddi gael ei hysbrydoli i sgwennu dramau. Gweithiodd ar y cyfandir cyn dychwelyd i Gymru. Storiau pobl gyffredin yw ei phrif ysbrydoliaeth: eu teithiau, eu profiadau a’u gwaith. Mae’n arbenigo mewn gweithio gyda phobl gyffredin o fewn eu cymunedau. Gweithiodd gyda’r gymuned LGBT yn Abertawe ar “A Queer Christmas”, Mess Up The Mess a gyda chymuned tai cyngor yng Ngogledd Cymru – ar ddrama o’r enw “C’laen ta!” (Theatr Genedlaethol Cymru). Efallai mai “Sgint” (Theatr Genedlaethol Cymru) yw’r ddrama fwyaf nodedig mae wedi’i sgwennu. Ceisia wthio’r ffiniau ar nifer o lwyfanau gwahanol.

Yn ogystal â ‘Terysg’ ar hyn o bryd mae Bethan yn sgwennu ‘Madison’ – ffilm hir hefo Film Cymru Wales a ieie productions, ‘Feral Monsters’, i National Theatre Wales, a chyfres teledu wreiddiol ’Y Trap’ hefo Severn Screen a Warner Media 150.

 

 

For tickets call: 01352 758532