Mwy am Daniel Owen

Daniel Owen yw nofelydd Cymraeg mwyaf blaenllaw’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg. Fe’i ganwyd ym 1836 yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Y Gwanwyn canlynol, boddwyd ei dad a dau frawd iddo mewn damwain ym mhwll glo’r Argoed a adawodd y teulu mewn ‘mewn tlodi, os nad angen’ Er iddo dderbyn peth addysg yn Ysgol Brydeinig y dref, mewn gwirionedd, derbyniodd ei addysg gynnar yn y Capel Methodistiaid Calfinaidd y perthynai ei fam weddw iddo sef Capel Bethesda, yr Wyddgrug. Pan oedd yn ddeuddeg oed cafodd ei brentisio i un o flaenoriaid y capel, teiliwr doeth a diwylliedig o’r enw John Angell Jones. Trwy gwmnïaeth y siop deiliwr ac anogaeth Angell Jones a’i weinidog, y Parch Roger Edwards, trodd y bachgen yn llanc a garai lenyddiaeth. Yn ei ugeiniau ac erbyn hyn yn deiliwr profiadol cyhoeddodd bortreadau o gymeriadau lleol a chyfieithiad o nofel Americanaidd. Yn ogystal, fel cannoedd o’i gyfoedion talentog, dechreuodd bregethu.

Ym 1867 cofrestrodd yng Ngholeg y Bala, academi a sefydlwyd gan y Dr Lewis Edwards yn bennaf i addysgu dynion a oedd am fynd i’r weinidogaeth. Roedd gan ei gyd-fyfyrwyr feddwl mawr ohono fel dyn ifanc sylwgar a chraff, a dyna hefyd, heb os, oedd barn y Prifathro. Wedi deunaw mis dychwelodd Daniel Owen i’r Wyddgrug – yn ymddangosiadol i edrych ar ôl ei fam a’i chwaer. Yn fy marn, i gadawodd y coleg oherwydd yn ei hanfod na allai ddioddef crach-dduwioldeb na gofynion y weinidogaeth. Dychwelodd hefyd i siop deiliwr Angell Jones. Parhaodd i bregethu ar y Sul, roedd yn ddarllenwr eiddgar, ac ysgrifennai a chyhoeddai bortreadau, storïau a pheth barddoniaeth yn rheolaidd. Gydag amser sefydlodd ei siop deiliwr ei hun.

Pan oedd yn ddeugain oed, torrodd gwythïen yn un o’i ysgyfaint, ac o hynny allan ni fu ei iechyd yn dda. Ar waetha afiechyd cyson, roedd bywyd ei ddychymyg yn ffynnu. Cyhoeddwyd rhai o’i bregethau a straeon am faterion y capel yn Offrymau Neillduaeth; Sef Cymeriadau Beiblaidd a Methodistaidd (1879), ac wedi hyn y perswadiwyd ef gan Roger Edwards i ysgrifennu nofel. Cyhoeddwyd Y Dreflan (1881) a Rhys Lewis (1885) yn y lle cyntaf yn fisol yng nghylchgrawn Y Drysorfa dan olygyddiaeth Roger Edwards. Yn Rhys Lewis, efallai yr orau o’i nofelau, ceir cofnod bywgraffyddol o fywyd gweinidog, sydd yn ddrych o fywyd ac amserau Daniel Owen ei hun, ac sydd yn ddadansoddiad meistrolgar o gymhlethdodau afiaith, ffydd a mympwyaeth cymdeithas grefyddol ail hanner y bedwaredd ganrif a’r bymtheg. Daeth nofelau eraill i’w chanlyn, Enoc Huws (1891) a Gwen Tomos (1894). Ym 1888 cyhoeddodd gasgliad o ysgrifau, portreadau a barddoniaeth, Y Siswrn. Yn olaf un, yn y flwyddyn y bu farw, 1895, cyhoeddodd Straeon y Pentan.

DEREK LLWYD MORGAN

 

nol i’r brig